r/cymru • • 19h ago

Y Sesiwn: gwefan am ddim i ddysgu a rhannu alawon gwerin Cymreig

9 Upvotes

Helo pawb,

Dw i wedi creu Y Sesiwn (https://ysesiwn.cymru/), casgliad o tua 800 o alawon gwerin Cymreig i'w dysgu, eu chwarae a'u rhannu. Alawon offerynnol yw'r rhan fwyaf ohonyn nhw, felly mae'r wefan yn ymwneud mwy â rhannu a gwerthfawrogi ein cerddoriaeth draddodiadol nag â dysgu'r iaith, ond mae hi'n gwbl ddwyieithog.

Gallwch chi:

  • chwilio am alaw yn ôl ei henw, neu drwy chwarae'r nodau cyntaf i'r meicroffon
  • pori yn ôl math o alaw a chywair
  • gweld y sgôr, newid y cywair a gwrando ar yr alaw ar unrhyw gyflymder
  • gweld y tyllau neu'r tabiau ar gyfer y chwisl, y recorder, y mandolin, y ffidil a'r gitâr
  • clywed sut i ynganu enwau'r alawon
  • dod o hyd i sesiynau ledled Cymru, gyda map a chalendr

Mae'n gweithio heb signal ar ôl yr ymweliad cyntaf, felly mae'n handi yn y dafarn hefyd!

Mae'r wefan yn rhad ac am ddim, heb hysbysebion, ac yn ffynhonnell agored. Gall unrhyw un ychwanegu alawon neugywiriadau

Byddwn i wrth fy modd yn clywed eich barn. Os oes alaw ar goll yr hoffech chi ei gweld, rhowch wybod!

Diolch i'r mods am adael i mi ei rhannu.